Wednesday 9 March 2016

"lost and found" in Bargoed - Welsh info

Mae “colli a chanfod” yn rhoi sylw i gopïau o ffotograffau analog a gyflwynwyd gan aelodau o'n cymuned leol ym Margoed a thramor.




Gyda ffotograffiaeth ddigidol o'n cwmpas ym mhob man dymunem atgoffa pawb am bwysigrwydd printiau go iawn nad ydynt yn cael eu dileu'n rhwydd ac a all barhau am genedlaethau. Gofynnwyd i bobl gael golwg arall ar eu llyfrau lluniau, yr arferai pawb ohonom fod â hwy a'u llenwi gydag atgofion o wyliau, dathliadau a chipluniau o fywyd bob dydd.

Gwelsom drysorau go iawn, adroddiadau am orffennol pobl a hefyd orffennol y technegau ffotograffig a phrintio na chânt bellach yn defnyddio ar raddfa helaeth.

Bydd y lluniau yn cael eu cyflwyno fel printiau a rhagamcanion ar ein waliau oriel.
Hoffem ddiolch i bawb a ymddiriedodd ynom gyda'u ffotograffau ac felly godi cwr y llen ar eu bywydau a'u hymdrechion artistig.

“colli a chanfod” yw'r chweched arddangosfa ffotograffiaeth a drefnwyd yn Bargoed gan brosiect *kickplate*  diolch i grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru (Llywodraeth Cymru a'r Arian y Loteri), Datblygu'r Celfyddydau Caerffili on Cyngor Tref Bargoed.

No comments:

Post a Comment